- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Cyfredol
Climate science: Countering the myths
A greener Wales - making it happen
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Coal in Wales
Dyfodol ynni yng Nghymru...
Environmental campaigning - What can I do?
Etholiadau Cynulliad 2003
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Green Question Time
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Morglawdd Hafren ac ynni'r llanw
Newport Big Ask Live gig
Sir Benfro i Lundain - Pererindod GM Gerald
Ydi Masnach yn Deg?
Ynni gwynt: 20 Myth Yn Mynd Gyda’r Gwynt
Dai the Dragon demands action at global climate talks
Merthyr defeats massive rubbish incinerator
'Hawl i holi' etholiadau'r Cynulliad o amgylch Cymru
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
- Adnodd
Hinsawdd
Gyda her mor aruthrol a newid hinsawdd, sut all wlad fach fel Cymru helpu i ddatrys y broblem?
Cymru a gyfranodd at un o newidiadau mwyaf y byd yn ddiweddar, trwy gynhyrchu'r glo a roddodd bwer i'r chwyldro diwydiannol. A mi allem cyfrannu'n sylweddol at ddyfodol glanach, gwyrddach fydd hefyd yn cynnig miloedd o swyddi yn yr economi gwyrdd.
Mae gyda ni adnoddau ynni adnewyddadwy heb eu hail, mae traddodiad hir o ffermio'n weddol cynaliadwy, ac yn bwysicach fyth, mae ymrwymiad gwleidyddol cadarn o blaid lleihau ein hol-troed amgylcheddol. Mae gyda ni yng Nghymru targed i leihau allyriadau carbon 40 y cant erbyn 2020.
Effeithiau newid hinsawdd
Mae gweithgareddau dynol yn newid cyfansoddiad cemegol ein atmosffer a'r eigion. Mae peryg mawr y bydd newid hinsawdd yn arwain at newidiadau mawr a pharhaol yng nghytbwysedd bregus y byd.
Roedd llai o ia yn y Mor Arctic eleni na sy wedi bod ers 80 canrif. Mae prisiau bwyd yn cynyddu'n fyd-eang, yn rhannol oherwydd newidiadau hinsawdd sy'n gweithygu cynaeafau.
Mae'r hinsawdd wedi newid yn barod yma yng Nghymru. Mae glaw haf wedi gostegu chwarter ers canrif yn ol, gyda disgwyliad o leihad pellach o 15 y cant erbyn diwedd y ganrif hon. Mae tymheredd Cymru ar gyfartal tua 1°C yn uwch na chan mlynedd yn ol, a bydd tymheredd y blaned yn 1.5°C yn fwy ar gyfartaledd erbyn canol y ganrif.
Mae'r newidiadau hyn yn cael effaith andwyol ar gynefinoedd yng Nghymru, sy'n niweidio bywyd gwyllt. Mae Brwynddail y Mynydd, er enghraifft, yn debyg o ddiflannu o Gymru yn y degawdau nesaf.
Mae codiad yn lefel y mor, yn ogystal a stormydd mwy pwerus a mwy aml, yn cynyddu risg a dwyster llifogydd. Bydd tywydd mwy eithafol yng Nghymru yn golygu costau uwch a niwed i'n hiechyd a'n bywydau.
Mynd i'r afael a newid hinsawdd
Mae hi'n bosib i ni weithredu i leihau newid yn yr hinsawdd, ond mae angen gweithredwch pendant o lywodraeth a busnes. A mae angen hynny yn ddisymwth.
Bydd rhaid inni gynhyrchu llawer iawn o ynni di-garbon, byw yng nghartrefi wedi'u hynysu'n dda, defnyddio cludiant cynaliadwy, a lleihau'r gwastraff a gynhyrchem trwy ddefnyddio adnoddau yn fwy effeithlon.
Bydde ein syniadau yn golygu Cymru iachach a thecach, a bydde economi gwyrdd yn cyflogi degau o filoedd trwy'r wlad i gyd.

© Ian Homer



Discuss "Hinsawdd" in our forum