- Ein hymgyrchoedd
- Amdanom ni
- Get Involved
- Newyddion
Cyfredol
Climate science: Countering the myths
A greener Wales - making it happen
Ailgylchu yn dechrau o ddifri yn Sir Fynwy
Beth fyddai'n well gennych chi: ynni gwynt neu ynni niwclear?
Buddugoliaeth Ymgyrch GM!
Bwganod Brain Cymru yn mynnu cael caeau di-GM!
Cadwch Gymru'n Rhydd o GM
Coal in Wales
Dyfodol ynni yng Nghymru...
Environmental campaigning - What can I do?
Etholiadau Cynulliad 2003
Fferm wynt fôr Scarweather Sands
Green Question Time
Llwyddiant yr ymgyrch fferm wynt
Llywodraeth y DU yn ailagor dadl ynni niwclear
Mae'r hinsawdd yn newid, mae'n bryd holi cwestiynau
Newport Big Ask Live gig
Ydi Masnach yn Deg?
Ynni gwynt: 20 Myth Yn Mynd Gyda’r Gwynt
Dai the Dragon demands action at global climate talks
Merthyr defeats massive rubbish incinerator
'Hawl i holi' etholiadau'r Cynulliad o amgylch Cymru
Maniffesto ar gyfer Cymru wyrddach
- Adnodd
Ynni Adnewyddadwy22 April 2010
Mae dulliau adnewyddadwy yn gweithio drwy ddal ynni naturiol yr haul, y gwynt, cnydau pydredig, tonnau a grym dwr, llanw a cherrynt y môr. Caiff yr ynni ei newid i drydan, dwr poeth, tanwydd methan a / neu hydrogen.
Datgelodd ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru yn ddiweddar, gefnogaeth gref iawn ledled Cymru am fwy o ffermydd gwynt ar y tir a'r môr yng Nghymru.
Mae i dechnolegau ynni adnewyddadwy nifer o fanteision dros danwydd ffosiledig ac ynni niwclear.
Mae Ynni adnewyddadwy:
- fel arfer yn gystadleuol o ran cost, os nad yn rhatach, na chynhyrchiad gan danwydd ffosiledig ac ynni niwclear
- yn lledaenu ychydig neu ddim nwyon ty gwydr, yn wahanol i danwydd ffosiledig
- yn lledaenu ychydig neu ddim nwyon glaw asid, sy'n niweidiol i iechyd a chefn gwlad, a llygrwyr aer eraill
- yn ffynhonnell ynni frodorol, hunan gynhaliol a diogel, am byth
- yn rhoi llai o gyfleoedd ar gyfer terfysgaeth, sydd yn hollol wrthgyferbyniol i gyfleusterau ynni niwclear
- yn gadael dim etifeddiaeth wenwynig hir-dymor megis tomenni gwastraff ymbelydrol
- yn dod â sefydlogrwydd i bris ynni, oherwydd ni effeithir fawr arno gan ddigwyddiadau yn y byd
- gan amlaf yn creu mwy o swyddi ar gyfer pob uned o ynni.
Wyddoch chi?
Pe gorchuddir un y cant o'r Sahara, neu anialwch poeth tebyg, gyda nifer o ddrychau solar thermol gellid cynhychu yr holl alw am drydan ar gyfer y byd
gallai tyrbinau gwynt ar y môr mewn ardaloedd o 70 milltir wrth 70 milltir gynhyrchu yr holl drydan ar gyfer defnydd cyfredol yn y DG. Byddai hyn yn lleihau oddeutu 25 y cant o ledaeniad nwyon cynhesu byd-eang y DG.

© Friends of the Earth Cymru



Discuss "Ynni Adnewyddadwy" in our forum